Sut gallwn ni eich helpu chi?

Defnyddwyr

Canllaw cam wrth gam o ran gwneud cwyn

 

**Mae hwn yn wasanaeth newydd. Pan fydd datblygwyr wedi cwblhau eu cofrestriad, bydd eu manylion yn ymddangos ar y wefan hon a gall defnyddwyr ddechrau'r broses gwyno. Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd nes bod manylion eich datblygwr yn ymddangos.**

 

Step 02

Gallwch gwyno am Ddatblygwr Cofrestredig [sydd wedi'i gofrestru gyda'r Bwrdd Ansawdd Cartrefi Newydd].

Mae rhestr o'r Datblygwyr Cofrestredig i'w gweld yma a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd. Mae'r rhestr hefyd yn dangos y dyddiad y daethant o dan awdurdodaeth Gwasanaeth yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd.

Gallwch gwyno am broblemau sydd wedi codi o hyd at ddwy flynedd ar ôl neilltuo’r eiddo neu’r cwblhad cyfreithiol, pa un bynnag sydd fwyaf diweddar. Rhaid i'r dyddiad neilltuo fod ar ôl i'r Datblygwr Cofrestredig ddod o dan Gynllun yr Ombwdsmon Cartrefi.

Rhaid i'r gŵyn ymwneud â thorri'r Cod Ansawdd Cartrefi Newydd. Fodd bynnag, os nad ydych yn sicr a yw eich cwyn ynghylch tor-amod, rhowch fanylion llawn eich cwyn i ni a byddwn yn ymchwilio i hyn i chi.

Mae rhai enghreifftiau o faterion y gellir cwyno amdanynt yn cynnwys [ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr]:

  • Datblygwr Cofrestredig yn darparu gwybodaeth gamarweiniol i gwsmer yn ystod y broses farchnata a gwerthu megis am faint yr eiddo, pris yr eiddo neu'r gwasanaethau rheoli a ddarperir.
  • Ymddygiad gwasanaeth cwsmeriaid Datblygwr Cofrestredig neu staff ar y safle.
  • Ymddygiad y datblygwr drwy gydol y broses Neilltuo a Chwblhau.
  • Problemau wrth ddatrys unrhyw broblemau gyda mân-ddiffygion ar ôl cwblhau.
  • Materion yn ymwneud â sut mae'r Datblygwr wedi ymdrin â'ch cwyn.
  • Unrhyw atebion arfaethedig i'r materion nad ydych yn fodlon eu derbyn.
  • Oedi cyn datrys problemau.